skip to main |
skip to sidebar


Oedd y car hwn wedi ei barcio mewn lle wedi ei glustnodi ar gyfer gyrrwyr anabl wrth ochr Siambr Dafydd Orwig, Caernarfon dydd Mawrth diwethaf er nad oedd bathodyn anabl arno ac hyd y gwn i tydi'r perchennog ddim wedi ei gofrestru gyda unrhyw anabledd.
Tybed pwy ydi'r perchennog? Tydi'r car ddim "Yma o Hyd", efallai am fod y perchennog wedi colli ei sedd yn yr etholiad diwethaf, dwn i ddim?
DIWEDDARIAD - Mae Rhydian Fon o Gangen Plaid Cymru Bontnewydd yn datgan nad yw'r lle yma wedi ei glustnodi ar gyfer gyrrwyr anabl - fel mae'r lluniau ychwanegol yn dangos yn glir, mae o. Os ydwi yn anghywir mi rof i £500 i Gangen Plaid Cymru Bontnewydd, os ydwi yn gywir, tybed os wneith Rhydian a pherchennog y car sicrhau fod Plaid Cymru yn rhoi £500 i Llais Gwynedd. Paidiwch a trio amddiffyn yr aniffynadwu.This car was parked in a designated area for disabled drivers near the Council Chamber in Caernarfon on Tuesday, despite not having a blue badge or the driver being registered disabled as far as I am aware.
Who could the owner be I wonder? It's a nice motor, Presidential like I would say..and it has a Plaid Cymru sticker on the back....Hmm, who's Plaid's president these days?
UPDATE - Rhydian Fon from the Bontnewydd Branch of Plaid Cymru states that this area is not designated for disabled drivers. As the additional photo's clearly show, it is! If I am wrong, I will pay £500 to the Bontnewydd Branch of Plaid Cymru, however if I am right, I'd expect Rhydian and the owner of the car to give £500 to Llais Gwynedd. Don't try and defend the indifencable...put up or shut up!

Unwaith eto yn rhifyn wythnos hon o gylchgrawn propaganda Plaid Cymru (GOLWG) mae'r colofnydd Jac Codi Baw yn codi rhagor o gelwydd o drons y Golygydd disglair, Dylan Iorwerth.
Tro hwn mae Jac yn honni i mi rhai blynyddoedd yn ol tra yn aelod o grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ddigio gyda'r grwp am iddynt beidio a derbyn gwahoddiad "i lyfu'r teulu brenhinol yn Buck house" ac fy mod i wedi mynnu mod i yn cael mynd yno! Yn ogystal mae GOLWG yn datgan fod teimladau mor gryf ar y mater nes i mi a fy nghyfaill Y Cynghorydd Alwyn Gruffudd bron a dod i gwffio dros y mater!
Does dim o hyn yn wir ac dwi wedi ysgrifennu at Dylan Iorwerth i ddweud wrtho os ddigwydd iddo ef neu ei racsyn ysgrifennu stori gelwydd amdanaf eto byddaf yn erlyn GOLWG yn ogystal a mynd a chwyn yn erbyn y cylchgrawn i Gomisiwn Cwynion y Wasg.
Er mwyn cael y ffeithiau yn gywir.
Dwi erioed wedi bod yn Buckingham Palace a dwi erioed wedi cael fy ngwahodd i unrhyw ddigwyddiad yno.
Mi ddaru mi gyfarfod Prince Charles yn 1998 mewn Premier Ffilm yn Yr Wyddgrug yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Economaidd Cyngor Gwynedd yr adeg hynny.
Dwi wedi gweithio am 7 mlynedd fel ymgynghorydd rhwng 2000-07 i un o elusenau'r Tywysog, Prime-Cymru.
Dwi hefyd ers y llynedd wedi bod yn ymddiriedolwr a chyfarwyddwr ar Fwrdd Rheoli yr elusen honno ac yn rhinwedd fy ngwaith i'r elusen sydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobol dros 50 oed i ddechrau busnesau yng Nghymru dwi wedi cyfarfod a'r Tywysog tua 4 gwaith (pob tro yma yng Nghymru).
Roeddwn wedi cael gwahoddiad i gwrdd ag ef eto yr wythnos diwethaf yn Llanymddyfri ond oherwydd materion eraill yn ymwneud a fy Ward bu rhaid i mi wrthod y gwahoddiad y tro hwn.
Be sydd yn drist am hyn ydi fod GOLWG sydd yn derbyn arian sylweddol gan Llywodraeth y Cynulliad (Llafur/Plaid Cymru) yn gyson yn ymosod arnaf i ac ar Llais Gwynedd am i ni wneud safiad dros addysg gynradd yma yn Ngwynedd ac dros gymunedau lleol tra oedd y Blaid yn barod i'w aberthu er mwyn rhanu grym ym Mae Caerdydd.
Rwan, mae beirniadaeth yn iawn, does gennyf ddim problem o gwbwl gyda hynny OND mae gennyf broblem pam fod celwydd llwyr yn cael ei ffurfio a'i gyhoeddi heb ddim tystiolaeth o gwbwl amdanai.
Hoffwn wybod yn union am faint o arian mae Dylan Iorwerth a GOLWG Cyf wedi puteinio eu hunain i'r Llywodraeth er mwyn cael rhagor o arian i gynnig y safle we mwya' di-flach GOLWG 360 i'r genedl.
Ac unwaith eto trueni na fyddai Jac Codi Baw yn ddigon o ddyn neu ddynes i rhoi eu henw iawn tu ol i'r sothach mae nhw yn sgwennu - serch hynny, fydde chi isio pinecl eich gyrfa fod yn golofn fel hon mewn cylchgrawn o safon mor echrydus o wael a GOLWG?
Sgwn i be fyddai'r papur dyddiol Cymreig cynta wedi edrych fel? Cawn byth wybod rwan fod y criw diharhebol hwn wedi cael yr arian er mwyn gwthio propaganda'r Blaid yn eu racsyn ac ar y safle we siomedig.
Dal ati Dylan..daw y dydd.
Derbyniodd amryw o gwsmeriaid banc yr Halifax lythyr heddiw yn datgan wrthynt y bydd cangen y banc yn y dref yn cau ar ddydd Gwener 2ail o Hydref.
Yn naturiol mae hyn yn newyddion drist ac yn ergyd arall i'n ymdrechion i adfywio ganol y dref.
Daw'r penderfyniad yn sgil y ffaith bod HBOS y cwmni sydd berchen a'r Halifax wedi gwneud colledion enfawr.
Dwi ddim yn meddwl fod unrhyw bwynt i ni ofyn am newid y penderfyniad gan yn anffodus mae hyn yn anorfod ac yn dilyn patrwm y banciau mawr eraill.
Dwi yn sicir yn bwriadu ysgrifennu at Paul Richards, Rheolwr Rhanbarthol yr Halifax i ddatgan fy siom.
Mae'r cwmni yn eu llythyr yn datgan y gall cwsmeriaid y Blaenau ddefnyddio canghennau y cwmni ym Mangor a Llandudno!
Hoffwn awgrymu yn garedig os oes gennych chi arain mewn cyfrif efo'r Halifax eich bod yn ei dynnu i gyd allan a chau y cyfri ac yna agorwch cyfri newydd gyda'r arian hynny gyda'r Natwest,HSBC neu Undeb Credyd y Llechen sydd yn dal gyda canghennau yma yn y Blaenau.
Nai ddim dweud wrth Howard lle i roi ei arwydd sydd ganddo yn y llun gyfeillion!!..ond mae ffyrdd gwell o rheoli eich arian...banciwch efo banc sydd yn dal efo cangen yn agored yn eich tref!A number of Halifax Bank customers locally have received letters today informing them that the bank will be closing its Blaenau branch on Friday, October 2nd.
Naturally this is very disappointing news and another blow to our efforts to rejuvinate the town centre.
The decision comes in the light that HBOS, the company which owns the Halifax has made massive losses due to the global recession.
I feel that any efforts to get the bank to change their mind would be futile as this is the norm at the moment and follows the example of many other banks.
I certainly intend to write to Paul Richards, the Regional Manager for Halifax Bank to voice my dissapointment.
The letter from the bank tells their customers that they can use the other branches at Llandudno and Bangor!
Can I kindly suggest that if you have any funds deposited in a Halifax account that you withdraw all of it and close the account. Then deposit it in a new account at either the Natwest, HSBC or The Llechen Credit Union who still have brances at Blaenau which we should do our best to retain.
I won't tell Howard where to stick the sign that he is holding in this photo!!...however I would agree that there is a smarter way to manage your money...put it in an account in a bank which still has a branch open in your town!
Cofiwch bydd y Cyng.Dafydd Lloyd Hughes a mi ar gael bore dydd Sadwrn yma yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes (Llyfrgell, Maenofferen) rhwng 10am -11.30am.
Nid oes angen apwyntiad ac os gallwn fod o gymorth i chi, yna piciwch draw i'n gweld.Remember, Cllr.Dafydd Lloyd Hughes and myself will be available between 10am -11.30 this Saturday morning at the Life Long Learning Centre (Library), Maenofferen.
There is no need to make an appointment and if you think we can help you in any way, please feel free to pop in and see us.
Tra mae ei etholwyr yn dioddef effaith y dirwasgiad mae'n ymddangos fod ein Aelod Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn meddwl mai rhywbeth i fwyta wrth y bwrdd brecwast ydi "Credit Crunch"....mae ffigyrau treuliau Aelodau y Cynulliad am flwyddyn diwethaf yn dangos fod yr Arg wedi hawlio dros £36,000 mewn treuliau a hynny ar ben ei gyflog sydd dros £100,000!
Dwi ddim yn siwr os yw cyflog cyfartalog etholaeth Dwyfor/Meirionnydd llawer uwch na £18,000 sef hanner yr hyn mae o wedi hawlio mewn costau yn unig!
Mae'n amlwg ei fod o'n byw bywyd digon bras...ydi o yn cynnig gwerth am arian? Yng ngeiriau'r anfarwol Arthur Picton .."Scersli bilifed"!!Whilst many of his constituents are feeling the effects of the recesion, it appears that our local Assembly Member, Lord Dafydd Elis-Thomas thinks that "Credit Crunch" is something that is served at the breakfast table.
The expense claims of Assembly Members were published earlier this week and guess who's at the top of the pile with a claim in excess of £36,000..yes, Dafydd Elis-Thomas...this remember is on top of his salary which is over £100,000 per annum!!
I don't think that the avarage wage within the Dwyfor/Meirionnydd Constituancy is over £18,000 which equates to half of the Lord's claim for expenses alone!
Its clear that he leads a very charmed life...does he give value for money? Hmmm I guess that the answer by many would be..."I don't think so"!
Yn sgil y difrod diweddar yn fynwent Bethesda a sylwadau rhai o'r teuluoedd ac rhai o gynghorwyr y dref yn y cyfrfod neithiwr, dwi wedi rhoi'r cynnig isod ger bron y Cyngor Tref er mwyn i ni gael trafodaeth pellach ynghylch a plismona yn y dref.
“Fod y Cyngor hwn yn gwahodd Prif Cwnstabwl Heddlu Gogledd Cymru a Chadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru i ddod i gyfarfod y Cyngor Tref cyn gynted ac sy’n bosib er mwyn trafod yr angen am rhagor o heddweision wedi ei lleoli yma yn yr orsaf heddlu lleol ac yn cerdded strydoedd Blaenau Ffestiniog a’r pentrefi cyfagos”.
Dwi'n meddwl fod yr heddlu sydd gennym ni yn yr ardal hon yn gwneud gwaith da iawn o dan amgylchiadau annodd OND y gwir plaen ydi nad oes digon ohonynt ac mae cyfraith a threfn mewn peryg o fynd allan o reolaeth yma os nad ydym yn cael fwy o adnoddau i blismona'r dref.
Following the recent incident at Bethesda Cemetary and comments made at last night's meeting of the Town Council by some of the families and some of my fellow council members, I have decided to put forward this notice of motion for debate at next weeks full Town Council meeting.
“That this Council invites the Chief Constable of North Wales Police and the Chair of the North Wales Police Authority to attend a meeting with the Town Council as soon as possible in order to discuss the need for more police officers to be stationed at the local police station and patrolling the streets of Blaenau Ffestiniog and its surrounding villages”.
I feel that the policemen and women that we have in the area do a very good job under quite unreasonable circumstances simply due to the fact that there are not enough of them here to patrol and police the area properly and to the expected level of the local community.